Ynys yw prosiect cerddorol Dylan Hughes, gynt o Race Horses a Radio Luxembourg.
Yn chwechawd byw, mae Ynys yn cyfuno harmonïau dros drac sain hudolus o beiriannau llinynnau o’r 70au, synths o’r 80au a gitâr fuzz.
O Aberystwyth, rhyddhaodd Ynys eu halbwm cyntaf ym mis Tachwedd 2022 ar Recordiau Libertino. Albwm o ganeuon cyfoethog o bop seicadelig bregus a melancolaidd a ddenodd adolygiadau ar wefannau megis The Line of Best Fit, Brooklyn Vegan, a God Is In the TV. Gwelwyd gigs byw yng nghŵyl Lleisiau Eraill, FOCUS Wales, a SWN, ynghyd â nifer o wyliau cerddorol dros yr Haf.
Bu nifer o ganeuon Ynys yn draciau’r wythnos ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Amazing Radio, ac mae’r band wedi chwarae sesiynau byw i raglen Marc Riley ar BBC 6 Music.
Mae albwm newydd Ynys, ‘Dosbarth Nos’ allan nawr ar Recordiau Libertino (LP / CD / Lawrlwytho)